Lleoliad:
Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 23 Ionawr 2018
Amser:
08.30 -
08.44
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AC, Llywydd (Cadeirydd) Mark Drakeford AC Andrew RT Davies AC Rhun ap Iorwerth AC Gareth Bennett AC |
Staff y Pwyllgor: |
Siân Wilkins (Clerc) |
Eraill yn bresennol |
Ann Jones AC, Y Dirprwy Lywydd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad Christopher Warner, Pennaeth Gwasanaeth y Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth Rhuanedd Richards, Cynghorwr Polisi i'r Llywydd Gwion Evans, Pennaeth Swyddfa Breifat y Llywydd Helen Carey, Llywodraeth Cymru |
Ymddiheurodd Arweinydd y Tŷ, a daeth Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid yn ei lle.
Ymddiheurodd Paul Davies, a daeth Andrew RT Davies yn ei le.
Cytunodd y Pwyllgor ar y cofnodion ar gyfer eu cyhoeddi.
Dydd Mawrth
· Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal ar ôl yr eitem olaf o fusnes.
Dydd Mercher
Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.
Nododd Rheolwyr Busnes fod newid i'r amserlen OAQ ar gyfer mis Mawrth 2018; bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth bellach yn ateb cwestiynau ar 7 Mawrth, ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar 14 Mawrth. Mae hyn oherwydd y bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth dramor yn ystod y slot a ddyrannwyd iddo. Mae'r amserlen ar-lein wedi'i diwygio yn unol â hynny.
Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:
Dydd Mercher 7 Chwefror 2018
Dydd Mercher 14 Chwefror 2018 –
· Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)
· Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon i unigrwydd ac unigedd (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
· Y Rheolwyr Busnes i ddewis cynnig ar gyfer dadl ar 31 Ionawr:
NNDM6626
Mick Antoniw
Sian Gwenllian
David Melding
David Rees
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod bod contractau preswyl lesddaliad yn parhau i gynrychioli cyfran sylweddol o eiddo a adeiladir o'r newydd yng Nghymru; a
a) bod contractau preswyl lesddaliad yn aml yn cael eu cynnig ar delerau anfanteisiol, gan arwain at niwed i berchennog y cartref; a
b) mai ychydig o amddiffyniad sydd gan berchnogion cartrefi lesddaliad rhag ffioedd afresymol ac oedi afresymol wrth brynu, gwerthu neu wella eu heiddo.
2. Yn nodi gwaharddiad arfaethedig Llywodraeth y DU ar werthu eiddo lesddaliad a adeiladir o'r newydd yn Lloegr.
3. Yn credu y dylai Llywodraeth Cymru gymryd camau i ddiogelu perchnogion cartrefi yn y dyfodol drwy ddiddymu contractau preswyl lesddaliad yng Nghymru.
NNDM6635
Dai Lloyd
Mike Hedges
David Melding
Nick Ramsay
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi nifer y ffyrdd yng Nghymru sydd heb eu mabwysiadu, ac felly nad ydynt yn cael eu cynnal gan yr awdurdod lleol perthnasol.
2. Yn nodi bod nifer o ddatblygwyr heb adeiladu ffyrdd ar ystadau newydd i safonau mabwysiadwy.
3. Yn cydnabod bod gwendidau yn y broses o brynu tai, ac nid yw bob amser yn sicrhau bod gan brynwyr symiau dargadw ariannol digonol yn eu lle i ddod â'r ffyrdd hyn at safon mabwysiadwy'r awdurdod lleol.
4. Yn cydnabod bod y prynwyr tai hynny yn aml yn wynebu gorfod buddsoddi symiau sylweddol o arian er mwyn dod â ffyrdd at safon mabwysiadwy'r awdurdod lleol.
5. Yn nodi bod nifer o'r ffyrdd hyn yn parhau i fod heb eu mabwysiadu ac mewn cyflwr gwael, am nifer o flynyddoedd, weithiau yn fytholbarhaus.
6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu tasglu, i gynnwys awdurdodau lleol, y proffesiwn cyfreithiol, datblygwyr a rhanddeiliaid allweddol eraill, gyda golwg ar ddatblygu gwelliannau i'r broses o brynu tai a mabwysiadu ffyrdd.
7. Yn ceisio datblygu rhaglen Cymru gyfan i sicrhau gostyngiad yn nifer y ffyrdd sydd heb eu mabwysiadu yng Nghymru.
Trafododd y Rheolwyr Busnes gais y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon am estyniad i ddyddiad cau adrodd Cyfnod 1 hyd at 9 Mawrth 2018 ac estyniad, o ganlyniad, i ddyddiad cau Cyfnod 2. Yn lle hynny, cynigiodd Llywodraeth Cymru estyniad hyd at 2 Mawrth , ar y sail, fel arall, y gellid ond cynnal dadl Cyfnod 1 (y mae'n rhaid ei gwblhau cyn y Prif Ddiwrnod Penodedig) yn ystod wythnos olaf y tymor, a oedd yn lefel risg annerbyniol yn eu barn nhw.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ofyn i'r Pwyllgor ystyried cynnig y Llywodraeth. Petai'r Pwyllgor yn cytuno, byddai'r Pwyllgor Busnes yn cadarnhau'r estyniad y tu allan i'r Pwyllgor; pe na fyddai'r Pwyllgor yn cytuno, byddai'r Pwyllgor Busnes yn edrych ar y mater eto yn y cyfarfod nesaf.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes â'r cais i gyfeirio pob Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y dyfodol at y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol i'w hystyried, yn ogystal ag unrhyw bwyllgor perthnasol arall.